Kate Forbes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Ebrill 1990 ![]() Dingwall ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Member of the 5th Scottish Parliament, Member of the 6th Scottish Parliament, Cabinet Secretary for Finance and the Economy ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban ![]() |
Gwleidydd o'r Alban yw Kate Elizabeth Forbes (ganwyd 6 Ebrill 1990). Mae hi'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP), ac yn Aelod o Senedd yr Alban (ASA) dros etholaeth Skye, Lochaber a Badenoch ers etholiad Senedd yr Alban yn 2016. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Economi rhwng 2020 a 2023.
Cafodd Forbes ei geni yn Dingwall, ond cafodd ei magu yn India a’r Alban. Cafodd ei haddysg mewn ysgol iaith Gaeleg,[1] ac enillodd radd BA mewn hanes yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Wedyn enillodd MSc mewn hanes alltud a mudo o Brifysgol Caeredin. Priododd Alasdair "Ali" MacLennan yn 2021.[2]